Elin Jones AS, y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes

     

    


14 Hydref 2020

 

 

Annwyl Lywydd, 

Cyfarfod arfaethedig y Pwyllgor Cyllid yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 11 Ionawr 2021: Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Busnes am dderbyn cais blaenorol y Pwyllgor Cyllid i gynnal cyfarfod ychwanegol yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 14 Rhagfyr 2020. Bydd hyn yn rhoi cyfle i Aelodau graffu ar y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd o ran cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 cyn gwyliau’r Nadolig.

Fodd bynnag, gan fod amserlen y gyllideb ddrafft yn golygu bod llai o amser ar gael i gynnal gwaith craffu, byddai’r Pwyllgor hefyd yn croesawu’r cyfle i gynnal cyfarfod estynedig yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 11 Ionawr 2021, i gynnal sesiwn dystiolaeth gyda rhanddeiliaid sy’n para diwrnod cyfan. Yn sicr, bydd yr ansicrwydd parhaus yn sgil y pandemig COVID-19 a diwedd y cyfnod pontio ar ôl Brexit yn effeithio ar y gyllideb eleni. Felly, mae’n hanfodol bod y Pwyllgor yn cael cyfle i glywed gan randdeiliaid perthnasol.

Yn gywir

Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.